Teth (corff)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | region of breast, teat, endid anatomegol arbennig, body orifice |
Rhan o | Bron |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y darn hwnnw o o'r chwarren laeth mewn mamaliaid benyw a sugnir gan rai ieuainc, e.e. gan blentyn, a'r darn cyfatebol ar fron mamaliaid gwryw, yw teth (hefyd diden, didi).
Dwy fron sydd gan ddynes, a orchuddir gan groen. Mae teth ar ben pob un, a amgylchynir gan areola. Amrywia lliw yr areola hwnnw o binc i frown tywyll, a lleolir sawl chwarren sebwm ynddi. Y chwarrenau llaeth mwyaf sy'n cynhyrchu llefrith. Fe'u dosbarthir trwy'r fron, gyda dau draean o'u meinwëoedd o fewn 30 mm o waelod y diden. Maent yn diferu i'r teth trwy nifer (rhwng 4 a 18) o ddwythellau llaeth, ac mae agoriad unigol gan bob un.
|