Afon Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B dol Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen lle| suppressfields = cylchfa|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}} |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
[[Afon]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Afon Conwy'''. Enwir [[Conwy (sir)|Bwrdeistref Sirol Conwy]] ar ei hôl am ei bod yn llifo trwy ganol y sir. Mae tref [[Conwy (tref)|Conwy]] yn dwyn ei henw hefyd, er mai [[Aberconwy]] oedd ei henw gwreiddiol. |

==Cwrs yr afon== |
==Cwrs yr afon== |
||
⚫ | |||
Mae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn [[Llyn Conwy]], sydd bellach yn gronfa dŵr, ar [[Y Migneint]]. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy [[Ysbyty Ifan]]. |

Llinell 15: | Llinell 11: | ||
Mae Afon Conwy yn awr yn llifo'n arafach o lawer tua'r gogledd, heibio i ddolydd eang a phorthfa bras i lawr i [[Llanrwst|Lanrwst]] a than pont dri bwa [[Inigo Jones]]. Yn is i lawr mae'n llifo heibio i bentrefi [[Trefriw]], [[Dolgarrog]] a [[Tal-y-bont, Conwy|Thal-y-bont]] ac yn mynd heibio i [[Caerhun|Gaerhun]] a safle'r [[Caerau Rhufeinig Cymru|gaer Rufeinig]] [[Canovium]] a'i hen eglwys. Mae pont yn cysylltu [[Tyn-y-Groes]] a [[Tal-y-cafn]] dros yr afon ac i'r gogledd i Dyn-y-Groes mae hi'n llifo wrth droed hen gaer Geltaidd [[Bryncastell]]. |

Mae'r afon yn ymledu ar ôl Tal-y-cafn ac yn mynd heibio i [[Glan Conwy]] cyn cyrraedd y môr yn ymyl tref [[Conwy (tref)|Conwy]]. Yng Nghonwy mae ei llif yn cael ei chyfyngu i redeg dan dair pont ger muriau'r castell: [[Pont Grog Conwy]] gan [[Thomas Telford|Telford]], [[Pont Rheilffordd Conwy]] gan [[Robert Stephenson|Stephenson]], a phont ffordd a adeiladwyd ym [[1958]]. Mae'r bont honno, a'r dref, bellach wedi eu hosgoi gan yr [[A55]], sy'n rhedeg mewn twnnel dan yr afon. Wrth ymyl y pontydd hefyd y mae [[Afon Gyffin]] yn ymuno â hi. Mae Afon Conwy yn afon lanwol ar ran olaf ei thaith a gall effaith y llanw gyrraedd cyn belled â Llanrwst ar lanw mawr. |

Mae ei haber, [[Aberconwy]] yn llydan rhwng Conwy a [[Deganwy]] ac yn boblogaidd gan berchnogion cychod hwylio, fel y mae'r [[marina]] newydd ger [[Morfa Conwy]] yn tystio. Yn y gorffennol Aberconwy oedd yr enw brodorol am dref Conwy ei hun. Mae'r banciau tywod eang yn yr aber yn enwog am eu gwelyau cregyn gleision a bysgotir o hyd o harbwr Conwy. |

==Mewn hanes== |
==Mewn hanes== |
||
Llinell 47: | Llinell 37: | ||
**''[[Afon Ro|Afon Tafolog]]'' |
**''[[Afon Ro|Afon Tafolog]]'' |
||
*[[Afon Serw]] |
*[[Afon Serw]] |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
== Llyfryddiaeth == |
== Llyfryddiaeth == |
||
* Wilson MacArthur, ''The River Conway'' (Llundain, 1952). Hanes daith i lawr yr afon ar ei hyd ar ddechrau'r |
* Wilson MacArthur, ''The River Conway'' (Llundain, 1952). Hanes daith i lawr yr afon ar ei hyd ar ddechrau'r 1950au. |
||
* E.D. Rowlands, ''Dyffryn Conwy a'r Creuddyn'' (Lerpwl, 1947) |
* E.D. Rowlands, ''Dyffryn Conwy a'r Creuddyn'' (Lerpwl, 1947) |
||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
{{comin|Category:River Conwy|Afon Conwy}} |
|||
*[[Dyffryn Conwy]] |
*[[Dyffryn Conwy]] |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
==Oriel== |
|||
<gallery heights="180px" mode="packed"> |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
</gallery> |
|||
[[Categori:Afonydd Conwy|Conwy]] |
[[Categori:Afonydd Conwy|Conwy]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:18, 22 Mawrth 2022
Math | afon, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,300.77 ha |
Cyfesurynnau | 52.99514°N 3.81639°W, 53.2983°N 3.8419°W, 53.279491°N 3.818063°W |
Aber | Môr Iwerddon |
Llednentydd | Afon Machno, Afon Llugwy, Afon Crafnant, Afon Lledr, Afon Gyffin |
Dalgylch | 590 cilometr sgwâr |
Hyd | 43 cilometr |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Afon yng ngogledd Cymru yw Afon Conwy. Enwir Bwrdeistref Sirol Conwy ar ei hôl am ei bod yn llifo trwy ganol y sir. Mae tref Conwy yn dwyn ei henw hefyd, er mai Aberconwy oedd ei henw gwreiddiol.
Cwrs yr afon
[golygu | golygu cod]Mae'n tarddu tua 1,550 troedfedd uwch lefel y môr yn Llyn Conwy, sydd bellach yn gronfa dŵr, ar Y Migneint. Filltir i'r de o'r llyn mae'n rhedeg dan y B4407 ac yn troi i'r gogledd i ddilyn y ffordd fel ffrwd fach trwy weundir corsiog y Migneint cyn llifo trwy Ysbyty Ifan.
O Ysbyty Ifan ymlaen mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng hen siroedd Caernarfon a Dinbych am y rhan fwyaf o'i chwrs. Ger Pentrefoelas mae hi'n cwrdd â'r A5 ac yn rhedeg heibio i erddi rhododendron y Foelas a thrwy chwm cul coediog rhwng y bryniau i'w haber ag Afon Machno, sy'n dod i mewn iddi o'r gorllewin o gyfeiriad Penmachno. Fymryn uwchlaw'r aber honno ceir rhaeadrau ar Afon Machno a mymryn islaw ar Afon Conwy ei hun mae: Rhaeadr y Graig Lwyd [1] yn gorwedd mewn ceunant werdd ddofn; mae ystol eogiaid yma i gynorthwyo'r eogiaid ar eu taith i fyny'r afon. Fymryn islaw eto ceir Ffos Noddyn (y Fairy Glen yn Saesneg) lle rhed yr afon trwy ceunant greigiog a choedwig pinwydd cyn derbyn dŵr Afon Lledr i'w llif.
Cyn cyrraedd pentref Betws-y-Coed mae Afon Llugwy yn ymuno â hi yn ogystal. Llyn yr Afanc yw'r enw ar y pwll mawr o ddŵr tawel tywyll ger aber y ddwy afon ac mae yna chwedl werin am yr anghenfil oedd yn byw yno a gafodd ei swyno allan o'r llyn gan eneth ifanc a'i llusgo i fyny'r dyffryn i Lyn Cwm Ffynnon Las, ger Dolwyddelan. Mae'r afon yn llifo wedyn dan bont haearn enwog Pont Waterloo, sy'n cludo'r ffordd A5 drosti.
Mae Afon Conwy yn awr yn llifo'n arafach o lawer tua'r gogledd, heibio i ddolydd eang a phorthfa bras i lawr i Lanrwst a than pont dri bwa Inigo Jones. Yn is i lawr mae'n llifo heibio i bentrefi Trefriw, Dolgarrog a Thal-y-bont ac yn mynd heibio i Gaerhun a safle'r gaer Rufeinig Canovium a'i hen eglwys. Mae pont yn cysylltu Tyn-y-Groes a Tal-y-cafn dros yr afon ac i'r gogledd i Dyn-y-Groes mae hi'n llifo wrth droed hen gaer Geltaidd Bryncastell.
Mae'r afon yn ymledu ar ôl Tal-y-cafn ac yn mynd heibio i Glan Conwy cyn cyrraedd y môr yn ymyl tref Conwy. Yng Nghonwy mae ei llif yn cael ei chyfyngu i redeg dan dair pont ger muriau'r castell: Pont Grog Conwy gan Telford, Pont Rheilffordd Conwy gan Stephenson, a phont ffordd a adeiladwyd ym 1958. Mae'r bont honno, a'r dref, bellach wedi eu hosgoi gan yr A55, sy'n rhedeg mewn twnnel dan yr afon. Wrth ymyl y pontydd hefyd y mae Afon Gyffin yn ymuno â hi. Mae Afon Conwy yn afon lanwol ar ran olaf ei thaith a gall effaith y llanw gyrraedd cyn belled â Llanrwst ar lanw mawr.
Mae ei haber, Aberconwy yn llydan rhwng Conwy a Deganwy ac yn boblogaidd gan berchnogion cychod hwylio, fel y mae'r marina newydd ger Morfa Conwy yn tystio. Yn y gorffennol Aberconwy oedd yr enw brodorol am dref Conwy ei hun. Mae'r banciau tywod eang yn yr aber yn enwog am eu gwelyau cregyn gleision a bysgotir o hyd o harbwr Conwy.
Mewn hanes
[golygu | golygu cod]- Yn hanesyddol, Afon Conwy oedd y ffin oedd yn rhannu Teyrnas Gwynedd yn ddwy ran, sef Gwynedd Uwch Conwy a Gwynedd Is Conwy (neu Y Berfeddwlad) ac mae hi'n aros yn ffin ddiwyllianol a thafodieithol heddiw.
- Mae William Williams (1738-1818) o Landygai yr hanesydd Cymreig a ysgrifennodd ‘History of Caernarvonshire’ yn sôn am ddamwain a ddigwyddodd yn Afon Conwy yn amser Cromwell h.y. yn y cyfnod 1649-60 pan fu i un o gychod y fferi suddo ac 80 o deithwyr ar ei bwrdd. Boddwyd y teithwyr i gyd ond un ferch ifanc — Anne Thomas oedd ar ei ffordd i gyfarfod ei darpar ŵr, Sion Humphries o Lanfairfechan. Trwy gyd- ddigwyddiad fe syrthiodd o o ben craig ym Mhenmaenmawr, ond cafodd ei achub! Mae diwedd hapus i’r hanes. Priododd y ddau a symud i fyw i Lanfairfechan. Nid dyna ddiwedd y stori. Pan fu Anne farw ar Ebrill 11eg 1744 roedd yn 116 mlwydd oed, ond bu Sion fyw am bum mlynedd arall ac fe’i claddwyd o ar Ragfyr 10fed 1749. ‘Does dim cyfeiriad at oed Sion pan fuo fo farw ond y tebyg yw ei fod yn llawer ieuengach na’i wraig. Mae’r beddau i’w gweld ym mynwent hen eglwys Llanfairfechan. Tybed ai gwyntoedd cryfion fu’n gyfrifol am y ddwy ddamwain?[2]
Llednentydd
[golygu | golygu cod]- Afon Crafnant
- Afon Dulyn
- Afon Ddu
- Afon Eidda
- Afon Gallt-y-Gŵg
- Afon Gyffin
- Afon Lledr
- Afon Llugwy
- Afon Machno
- Afon Merddwr
- Afon Porth-llwyd
- Afon Ro
- Afon Serw
Pysgodfeydd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Wilson MacArthur, The River Conway (Llundain, 1952). Hanes daith i lawr yr afon ar ei hyd ar ddechrau'r 1950au.
- E.D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Llên Natur Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
- ↑ Stan Wicklen, Papur Bro 'Y Pentan'
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Afon Conwy yn llifo trwy Ddyffryn Conwy ger Tal-y-cafn
-
Aber yr afon o Gastell Conwy
-
Yr afon yn llifo dan y ddwy bont yn nhref Conwy tua'r môr
-
Llyn Conwy
-
Ffos Noddyn
-
Yr afon ger Gwarchodfa Natur Conwy
-
Ffilm fer o'r ardal rhwng y Migneint a Dyffryn Conwy