Sardinia
Yr ail fwyaf o'r ynysoedd yn y Môr Canoldir a rhanbarth yr Eidal yw Sardinia (Sardeg: Sardigna [sarˈdinja], Eidaleg: Sardegna [sarˈdeɲɲa]). Mae ganddi statws rhanbarth ymreolaethol o fewn yr Eidal. Cagliari yw'r brifddinas.
Math | rhanbarthau'r Eidal, rhanbarth ymreolaethol gan statud arbennig |
---|---|
Prifddinas | Cagliari |
Poblogaeth | 1,628,384, 1,639,591 |
Anthem | Su patriottu sardu a sos feudatarios |
Pennaeth llywodraeth | Christian Solinas |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg, Sardeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Parth Glas |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 23,949 km² |
Uwch y môr | 384 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Cyfesurynnau | 40°N 9°E |
IT-88 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Sardinia |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Rhanbarthol Sardinia |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | arlywydd Sardinia |
Pennaeth y Llywodraeth | Christian Solinas |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,639,362.[1]
Mae gan yr ynys arwynebedd o 24,090 km²; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Saif ger arfordir gorllewinol yr Eidal, i'r de o Ynys Cors.
Rhennir y rhanbarth yn bum talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
Tua 1500 CC, galwyd yr ynys yn Hyknusa (Lladin: "Ichnusa") gan y Mycenaeaid, efallai yn golygu ynys (nusa) yr Hyksos, oedd newydd gael eu gyrru o'r Aifft. Cafodd ei henw presennol o enw'r Shardana, un arall o'r bobloedd a ymosododd ar yr Aifft, ond a orchfygwyd gan Ramesses III tua 1180 CC).
Yn wleidyddol, mae'n rhan o'r Eidal gyda mesur o hunanlywodraeth. Cydnabyddir pobl Sardinia gan lywodraeth yr Eidal fel "popolo", sef pobl ar wahân. Mae'n un o ddau ranbarth o'r Eidal sydd a'r statws yma; y llall yw Veneto. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 1,655,677. Y brifddinas yw Cagliari. Mae 'Parth Glas' yn ardal ddemograffig a/neu ddaearyddol yn y byd lle mae llawer o bobl yn byw bywydau hir. Cofnodir Sardinia ymhlith yr uchaf (yn enwedig talaith Nuoro ac Ogliastra). Gwelwyd yma ardal o hirhoedledd uchel iawn mewn pentrefi mynyddig lle y mae'r dynion yn cyrraedd eu 100 ar gyfradd uchel iawn.[2]
Mae gan yr ynys draddodiad cerddorol cryf, a cheir yno iaith gynhenid, Sardeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020
- ↑ Buettner, Dan (21 Ebrill 2009) [2008]. "Contents". The Blue Zones: Lessons for Living Longer From the People Who've Lived the Longest (arg. First Paperback). Washington, D.C.: National Geographic. t. vii. ISBN 978-1-4262-0400-5. OCLC 246886564. Cyrchwyd 15 Medi 2009.