Llandecwyn

pentref yng Ngwynedd

Plwyf a phentrefan gwasgaredig yn ardal Ardudwy, de Gwynedd, yw Llandecwyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SH632375). Yn ôl traddodiad fe'i cysylltir â Sant Tecwyn (fl. 6g?), a sefydlodd llan yno. Mae'n rhan o gymuned Talsarnau

Llandecwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9182°N 4.0351°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH631375 Edit this on Wikidata
Cod postLL47 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Eglwys Llandecwyn yn y gaeaf.

Gorwedd y plwyf yng ngogledd-orllewin Ardudwy ar lan ddeheuol Afon Dwyryd. Mae'n ymestyn o'r arfordir i fyny i fryniau gogleddol y Rhinogau. Ceir Llyn Tecwyn Uchaf a Llyn Llennyrch yng ngogledd y plwyf.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Ardudwy Uwch Artro. Prin bod Llandecwyn yn "bentref" o gwbl, ond yn hytrach mae'n gymuned o dai a ffermydd gwasgaredig o gwmpas yr eglwys. Adeilad newydd a godwyd yn 1879 yw'r eglwys bresennol, ond mae'n sefyll ar safle egwlys ganoloesol. Erys carreg o tua'r 11g yno, yn coffa'r sant a ddaeth yma, yn ôl traddodiad, yng ngosgordd Cadfan. Ceir Plas Llandecwyn gerllaw.[3]

Brodor o Landecwyn oedd y pregethwr a llenor D. Tecwyn Evans (David Evans). Yma hefyd y ganed J. H. Jones, cyn-olygydd Y Brython.[3]

Ceir gorsaf Llandecwyn ar Reilffordd Arfordir Cymru.

Cyfeiriadau

golygu