James Nicholas

Prifardd ac addysgwr o Gymro

Bardd ac addysgwr Cymreig oedd James Nicholas neu Jâms Niclas (19 Mawrth 192829 Medi 2013).[1]

James Nicholas
Ganwyd19 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Tyddewi Edit this on Wikidata
Bu farw29 Medi 2013 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, pennaeth Edit this on Wikidata
PlantBranwen Niclas Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yn Nhyddewi, Sir Benfro. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth yna bu'n athro mathemateg yn Ysgol Tŷ Tan Domen, y Bala ac yn Nhyddewi Penfro, cyn dod yn brifathro Ysgol y Preseli. Penodwyd ef yn Arolygydd Ysgolion yn 1975.

Daeth i'r amlwg fel bardd pan enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Fflint 1969. Bu'n Archdderwydd o 1981 hyd 1984, a bu'n Gofiadur am chwarter canrif gan orffen yn 2005. Bu hefyd yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru am gyfnod. Penodwyd ef hefyd yn Gymrawd rhai blynyddoedd yn ôl.

Bu farw ym Mangor yn 84 mlwydd oed gan adael gweddw, Hazel a dwy ferch, Branwen a Saran.[2]

Gweithiau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Stephens, Meic (17 Hydref 2013). James Nicholas: Poet, teacher and Archdruid of Wales. The Independent. Adalwyd ar 21 Hydref 2013.
  2. Jâms Nicolas wedi marw , Golwg360, 30 Medi 2013. Cyrchwyd ar 23 Mai 2016.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.