Gemau Olympaidd yr Haf 2024

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2024, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXIII Olympiad ac a gynhelir ym Mharis, Ffrainc, o 26 Gorffennaf hyd 11 Awst 2024.[1] Cynhwyswyd tri deg dau o chwaraeon.

Gemau'r XXXII Olympiad
DinasTokyo, Japan
ArwyddairOuvrons grand les Jeux (Gemau ar agor yn eang)
Gwledydd sy'n cystadlu206
Athletwyr sy'n cystadlu10,714
Cystadlaethau339 mewn 33 o Chwaraeon Olympaidd
Seremoni AgoriadolGorffennaf 23, 2021
Seremoni GloiAwst 8, 2021
Agorwyd yn swyddogol ganEmmanuel Macron, Arlywydd Rfrainc

Cystadleuodd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru (gweler isod).

Seremoni agoriadol

golygu

Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yng nghanol Paris. Teithiodd cynrychiolwyr o'r gwledydd oedd yn cystadlu ar hyd yr Afon Seine mewn cwch. Cafwyd perfformiadau gan sawl cerddor a dawnsiwr enwog, gan gynnwys Céline Dion, Lady Gaga, a'r band Gojira.[2]

Medalau

golygu

Mae gan bob medal yn y Gemau hyn ran o haearn gwreiddiol y Tŵr Eiffel ynddi ar ffurf hecsagon i gynrichioli siâp Ffrainc. Mae ochr ôl y medalau yn dangos Nike (duwies Groeg am fuddugoliaeth) tu fewn i Stadiwm Panathenaic. Dyma lle bu'r Gemau Olympaidd Modern Cyntaf yn 1896. Mae pob medal yn pwyso 455–529g.[3]

Dechrau cystadleuaeth

golygu
 
Scarlett Mew Jensen

Enillodd tîm Prydain ei fedal gyntaf ar ddiwrnod cyntaf y gystadleuaeth. Daeth Yasmin Harper a Scarlett Mew Jensen yn drydydd yn y blymio cydamserol gan ennill medal efydd.[4]

Cymry yn y Gemau

golygu

Roedd 31 o athletwyr o Gymru'n cystadlu yn y Gemau Olympaidd fel rhan o dîm Prydain yr haf hwn - y nifer fwyaf ers dros ganrif - gan gynnwys enwogion fel Emma Finucane, Jade Jones, Josh Tarling a Jeremiah Azu. Unwaith yn unig y bu mwy na hyn, sef 32 yn Llundain yn 1908, ond bryd hynny 'doedd gan Gymru ddîm tîm hoci yn cystadlu. Roedd 17 o'r 31 yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf.[5]

Y gwledydd a gymerodd ran a'u poblogaeth

golygu

Dyma restr o'r gwledydd hynny a gymerodd ran yng Ngemau Olympaidd 2024, yn nhrefn eu poblogaeth. Ni chynhwyswyd y Tîm Olympaidd Ffoaduriaid gan mai tabl am boblogaeth yw hwn. Er mwyn cymhariaeth, rydym wedi nodi safle Cymru, gyda'i phoblogaeth (yn 2024) o 3.1 miliwn, er na chystadleuodd Cymru fel gwlad. Pe bai Cymru wedi cymryd rhan, hi fyddai'r 138fed gwlad fwyaf ei phoblogaeth allan o 206 gwlad h.y. roedd 68 gwlad gyda phoblogaeth llai na Chymru'n cymryd rhan.

Gwledydd a gymrodd ran yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 yn nhrefn eu poblogaeth (mewn miliynau).
  1.   Gweriniaeth Pobl Tsieina 1442
  2.   India 1326
  3.   Unol Daleithiau America 335.9
  4.   Indonesia 275
  5.   Pacistan 223.7
  6.   Nigeria 211.1
  7.   Brasil 203
  8.   Bangladesh 169
  9.   Japan 125
  10.   Mecsico 125
  11.   Y Philipinau 109
  12.   Ethiopia 105
  13.   Yr Aifft 95
  14.   Fietnam 92.2
  15.   Iran 86
  16.   Twrci 85.3
  17.   Andorra 85
  18.   Yr Almaen 84
  19.   Ffrainc 68.3
  20.   Y Deyrnas Unedig 67
  21.   Gwlad Tai 66.1
  22.   De Affrica 62
  23.   yr Eidal 59
  24.   Tansanïa 57.3
  25.   Myanmar 53
  26.   De Corea 51.5
  27.   Samoa America 50
  28.   Colombia 49.1
  29.   Cenia 48
  30.   Sbaen 47.4
  31.   Wganda 47.1
  32.   Yr Ariannin 47
  33.   Algeria 44
  34.   Wcrain 41.1
  35.   Swdan 40.5
  36.   Gwlad Pwyl 38.4
  37.   Irac 38
  38.   Affganistan 37.4
  39.   Canada 37
  40.   Moroco 37
  41.   Angola 33
  42.   Ghana 33
  43.   Sawdi Arabia 33
  44.   Maleisia 32.4
  45.   Mosambic 30
  46.   Nepal 29.2
  47.   Periw 29
  48.   Feneswela 28.5
  49.   Iemen 28.3
  50.   Awstralia 26
  51.   Madagasgar 25.6
  52.   Gogledd Corea 25.5
  53.   Camerŵn 24
  54.   Arfordir Ifori 24
  55.   Taiwan 23.4
  56.   Syria 22.9
  57.   Niger 21.5
  58.   Sri Lanca 21.4
  59.   Bwrcina Ffaso 20
  60.   Mali 20
  61.   Chile 19.5
  62.   Casachstan 19
  63.   Rwmania 19
  64.   Malawi 18.7
  65.   Gwatemala 18
  66.   Yr Iseldiroedd 18
  67.   Ecwador 17.5
  68.   Sambia 17.1
  69.   Senegal 16.9
  70.   Cambodia 16
  71.   Tsiad 15.5
  72.   Simbabwe 15.1
  73.   Nawrw 13.7
  74.   Rwanda 13.2
  75.   Gini 12.7
  76.   De Sudan 12.6
  77.   Twfalw 11.9
  78.   Gwlad Belg 11.6
  79.   Tiwnisia 11.6
  80.   Bwrwndi 11.5
  81.   Gweriniaeth Dominica 11.4
  82.   Benin 11
  83.   Ciwba 11
  84.   Haiti 11
  85.   Somalia 11
  86.   Y Weriniaeth Tsiec 10.9
  87.   Gwlad Groeg 10.5
  88.   Sweden 10.5
  89.   Gwlad Iorddonen 10.4
  90.   Portiwgal 10.3
  91.   Aserbaijan 10.1
  92.   Hondwras 10.1
  93.   Israel 9.8
  94.   Emiradau Arabaidd Unedig 9.8
  95.   Hwngari 9.6
  96.   Tajicistan 9.5
  97.   Awstria 9
  98.   Papua Gini Newydd 8.9
  99.   Y Swistir 8.9
  100.   Togo 7.8
  101.   Sierra Leone 7.6
  102.   Hong Cong 7.4
  103.   Bwlgaria 7
  104.   Serbia 7
  105.   Laos 6.9
  106.   Paragwâi 6.8
  107.   Cirgistan 6.7
  108.   Libia 6.7
  109.   Libanus 6.1
  110.   Tyrcmenistan 6.1
  111.   Singapôr 5.9
  112.   Denmarc 5.8
  113.   El Salfador 5.7
  114.   Y Ffindir 5.6
  115.   Norwy 5.6
  116.   Slofacia 5.4
  117.   Slofenia 5.4
  118.   Congo 5.3
  119.   Iwerddon 5.2
  120.   Liberia 5.2
  121.   Palesteina 5.2
  122.   Seland Newydd 5.1
  123.   Nicaragwa 5.1
  124.   Costa Rica 5
  125.   Oman 4.8
  126.   Gweriniaeth Canolbarth Affrica 4.7
  127.   Mawritania 4.6
  128.   Coweit 4.5
  129.   Brwnei 4.3
  130.   Panama 4.1
  131.   Croatia 3.9
  132.   Bosnia-Hertsegofina 3.8
  133.   Georgia 3.7
  134.   Eritrea 3.5
  135.   Mongolia 3.4
  136.   Wrwgwái 3.4
  137.   Pwerto Rico 3.2
  138.   Cymru 3.1
  139.   Armenia 2.9
  140.   Lithwania 2.9
  141.   Albania 2.8
  142.   Jamaica 2.7
  143.   Gambia 2.6
  144.   Moldofa 2.6
  145.   Qatar 2.6
  146.   Namibia 2.5
  147.   Botswana 2.3
  148.   Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo 2.3
  149.   Gabon 2
  150.   Lesotho 2
  151.   Ynysoedd Solomon 2
  152.   Kosofo 1.9
  153.   Latfia 1.9
  154.   Gini Bisaw 1.8
  155.   Macedonia 1.8
  156.   Timor-Leste 1.4
  157.   Estonia 1.4
  158.   Trinidad a Thobago 1.4
  159.   Gini Gyhydeddol 1.3
  160.   Mawrisiws 1.3
  161.   Bolifia 1.1
  162.   Cyprus 1.1
  163.   Eswatini 1.1
  164.   Jibwti 1
  165.   Comoros 0.9
  166.   Ffiji 0.9
  167.   Bhwtan 0.8
  168.   Gaiana 0.8
  169.   Lwcsembwrg 0.7
  170.   Ain (département) 0.67
  171.   Cabo Verde 0.6
  172.   Malta 0.6
  173.   Montenegro 0.6
  174.   Swrinam 0.6
  175.   Bahamas 0.4
  176.   Belîs 0.4
  177.   Brwnei 0.4
  178.   Maldif 0.4
  179.   Gwlad yr Iâ 0.36
  180.   Wsbecistan 0.35
  181.   Barbados 0.3
  182.   Fanwatw 0.3
  183.   Antilles yr Iseldiroedd 0.2
  184.   Sant Lwsia 0.2
  185.   Samoa 0.2
  186.   São Tomé a Príncipe 0.2
  187.   Gwam 0.17
  188.   Ciribati 0.12
  189.   Tonga 0.11
  190.   Arwba 0.1
  191.   Grenada 0.1
  192.   Taleithiau Ffederal Micronesia 0.1
  193.   Sant Vincent a'r Grenadines 0.1
  194.   Seychelles 0.1
  195.   Y Wyryf Americanaidd 0.09
  196.   Bermiwda 0.07
  197.   Ynysoedd Caiman 0.07
  198.   Dominica 0.07
  199.   Sant Kitts-Nevis 0.06
  200.   Ynysoedd Marshall 0.05
  201.   Liechtenstein 0.04
  202.   Monaco 0.04
  203.   Ynysoedd Prydeinig y Wyryf 0.03
  204.   San Marino 0.03
  205.   Ynysoedd Cook 0.02
  206.   Palau 0.02


Cyfeiriadau

golygu
  1. Butler, Nick (7 Chwefror 2018). "Paris 2024 to start week earlier than planned after IOC approve date change". Inside the Games (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
  2. Jazz Monroe, Matthew Strauss. "Lady Gaga, Celine Dion, Gojira, and More Perform at Paris 2024 Olympics Opening Ceremony: Watch". Pitchfork (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2024.
  3. "Medalau Paris 2024". Olympics.
  4. Jonathan Liew (27 Gorffennaf 2024). "Team GB make splash with first medal of Paris Olympics in dramatic diving event". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2024.
  5. "Y Cymry all ennill medalau yng Ngemau Olympaidd Paris". BBC Cymru Fyw. 24 Gorffennaf 2024.