Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 - 10 Awst 2024. Hwn oedd Eisteddfod gyntaf yr Archdderwydd Mererid Hopwood. Hwn oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei gynnal ym Mhontypridd ers 1893.[10]
Llywydd yr ŵyl oedd Cennard Davies, athro a dreuliodd ddegawdau yn dysgu Cymraeg i oedolion.[11] Gwahoddwyd chwech o hoelion wyth yr ardal i dderbyn teitl Llywyddion Anrhydeddus, am eu "cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol". Y chwech oedd Eirlys Britton, Wil Morus Jones, Susan Jenkins, Geraint Davies, Menna Thomas a Martyn Geraint.[12]
Cyhoeddwyd fod y gronfa leol wedi codi £332,000 ar gyfer yr ŵyl. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Helen Prosser, eu bod "wedi cyrraedd eu targed ariannol a mwy". Darparodd Llywodraeth Cymru £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn darparu tocynnau am ddim i unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is yn ardal Rhondda Cynon Taf.[13]
Cyngherddau
golyguCychwynnodd yr Eisteddfod gyda'r sioe gerdd 'Nia Ben Aur', sy'n seiliedig ar chwedl Wyddelig. Cafodd yr opera roc gyntaf hwn ei berfformio yn y Gymraeg union hanner can mlynedd yn ôl. Mae'r sioe wedi ei ddiweddaru gyda sgript gan Fardd Plant Cymru, Nia Morais gyda threfniannau cerddorol newydd gan Patrick Rimes a Sam Humphreys a’i ail-ddychmygu gan y Cyfarwyddwr Angharad Lee. Roedd y perfformiad yn cynnwys trefniannau corawl gan Richard Vaughan a fydd yn cael eu perfformio gan gôr yr Eisteddfod. Roedd Afon Dance, grŵp dawnsio cymunedol lleol a dawnswyr yn ymuno gyda'r dawnswyr Gwyddelig, Nicola Kilmurry, o Ddulyn a Tadhg Quigley Brennan, o Donegal (trwy Six Collective).[14]
Y Maes
golyguYn Awst 2023 cyhoeddwyd mai Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd fyddai cartref yr Eisteddfod.[15] (51°36′06″N 3°20′13″W / 51.601580°N 3.336867°W) Gosodwyd pabellau a stondinau yr Eisteddfod ymysg adnoddau arferol y Parc. Defnyddiwyd theatr Y Muni ym Mhontypridd fel lleoliad i rowndiau cynderfynol a chyngerddau gyda'r nos.[16]
Roedd Maes B yn cael ei gynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd Pontypridd a roedd y maes Carafanau a gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch. Mae Llwybr Tâf yn cysylltu y tri lleoliad.[17] Roedd y ganolfan groeso a swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd a maes parcio hygyrch ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin. Defnyddiwyd tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.[18]
Prif gystadlaethau
golyguY Gadair
golyguEnillydd y Gadair oedd Carwyn Eckley (ffugenw "Brynmair"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Aneirin Karadog, ar ran ei gyd-feirniaid Huw Meirion Edwards a Dylan Foster Evans. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Cadwyn. Roedd hon yn gystadleuaeth agos iawn, gydag un o’r beirniaid yn ffafrio cadeirio ymgeisydd arall.
Dywedodd Aneirin Karadog "Mae’r golled, a’r ymgiprys â cheisio dal gafael ar atgofion, ceisio ffoi rhagddyn nhw weithiau gan eu bod yn dod â phoen galar gyda nhw, yn cael ei dwysáu drwy ganu moel y cerddi hyn a’r absenoldeb a deimlir o gerdd i gerdd hefyd yn cael ei deimlo yn yr arddull." Yn ei feirniadaeth dywed Huw Meirion Edwards: “Ymateb y mae’r bardd i’r profiad dirdynnol o golli ei dad yn dilyn gwaeledd yn ystod haf 2002, ac yntau ar y pryd yn blentyn ifanc". Ychwanegodd Dylan Foster Evans: “Rydym yng nghwmni bardd arbennig yma, a bydd y cerddi hyn yn aros yn fy nghof am amser maith.”[19]
Noddwyd y Gadair a'r wobr ariannol gan Ysgol Llanhari wrth i'r sefydliad ddathlu 50 mlynedd o addysg Gymraeg yn y sir. Dyluniwyd y Gadair gan Berian Daniel a fu'n cydweithio gyda disgyblion ysgol Gymraeg lleol i gael ysbrydoliaeth. Daw'r derw'r gadair o goeden hynafol fu'n tyfu ger cartre’ Iolo Morganwg yn y Bontfaen ac mae'r cynllun hefyd yn cynnwys glo a haearn i adlewyrchu hen ddiwydiant yr ardal.[20]
Y Goron
golyguEnillydd y Goron oedd Gwynfor Dafydd o Donyrefail (ffugenw "Samsa"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Tudur Dylan Jones ar ran ei gyd-feirniaid Guto Dafydd ac Elinor Gwynn. Cystadlodd 47 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Atgof. Yn ei feirniadaeth, dywedodd Tudur Dylan "Mae hanes y cymoedd yn gymhleth gyfoethog, ac adleisir y cyfoeth a’r cymhlethdod yn ymateb y bardd i’r ardal a’i phobl. Nid moliant unllygeidiog sydd yma – yn hytrach, ei dweud hi fel y mae, yn ddi-flewyn-ar-dafod o onest.”[21]
Noddwyd y Goron a'r wobr ariannol o £750 gan Ysgol Garth Olwg. Dyluniwyd y Goron a chynhyrchwyd gan Elan Rhys Rowlands o Gaernarfon. Yn 23 mlwydd oed hi yw un o'r ieuengaf erioed i wneud hynny. Wedi graddio o Brifysgol Birmingham, dywedodd mai dylunio'r goron oedd y "job gynta', yn yr wythnos gynta'" ar ôl dechrau yn ei swydd gyda chwmni Neil Rayment Goldsmiths, Bae Caerdydd.[22]
Gwobr Goffa Daniel Owen
golyguRoedd neb yn deilwng o'r wobr eleni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Jerry Hunter, ar ran ei gyd-feirniaid Catrin Beard a Marlyn Samuel. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000.
Dim ond 5 ymgais a gafwyd ar y gystadleuaeth eleni ond dywedodd y beirniaid nad oedd yr un ohonyn nhw yn barod i’w cyhoeddi. Yn y feirniadaeth dywedyd "Ymddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml. Er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae’n afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn". Ychwanegodd Catrin Beard "“Os yw ein prif ŵyl lenyddol am anrhydeddu nofel gyda gwobr ariannol hael a chlod cynulleidfa’r pafiliwn, mae’n deg bod y disgwyliadau’n uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw’n uwch fyth"[23]
Y Fedal Ryddiaith
golyguEnillydd y Fedal oedd Eurgain Haf o Bontypridd gyda'i nofel Y Morfarch Arian dan y ffugenw "Manaia". Dywedodd John Roberts yn ei feirniadaeth: “Mae gan Manaia allu i ysgrifennu yn gynnil ond lliwgar a bywiog, ac mae’r cymeriadau yn grwn ac yn gyfan. Manaia sy’n dod i’r brig a’r ddwy nofel arall yn dynn ar ei sodlau.”
Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Newid". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.
Thraddodwyd y feirniadaeth gan Annes Glynn, ar ran ei chyd-feirniaid John Roberts ac Elen Ifan.[24]
Y Fedal Ddrama
golyguNid oedd seremoni ar gyfer Fedal Ddrama eleni. Ar brynhawn Iau, cyhoeddodd yr Eisteddfod fod y gystadleuaeth wedi ei atal am eleni. Daeth y penderfyniad ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth.[25] Roedd sïon ar hyd a lled y Maes yn damcaniaethu am y rheswm a chafwyd beirniadaeth gan lawer am nad oedd eglurhad pellach gan yr Eisteddfod.[26]
Canlyniadau cystadlaethau
golyguBandiau Pres
golygu101. Bandiau pres Pencampwriaeth, dosbarth 1 1. Band Pres Cwm Ebwy - Glynebwy 2. Band Tylorstown - Pendyrus 3. Band Parc a Dare - Treorci
102. Bandiau pres dosbarth 2 a 3 1. Band Pres Bwrdeistref Casnewydd - Casnewydd 2. Seindorf Arian Rhydaman - Rhydaman 3. Band Markham a'r Cylch - Abertawe
103. Bandiau pres dosbarth 4 1. Band Porthaethwy - Bangor
104. Bandiau pres ieuenctid 1. Band Ieuenctid De Cymru 2. Seindorf Ieuenctid Beaumaris - Ynys Môn
Cerdd Dant
golygu151. Côr cerdd dant 1. Lleisiau Tywi — Llandeilo 2. Merched Ystum Taf — Caerdydd 3. Côr Tônteg — Pentre'r Eglwys
152. Parti cerdd dant agored 1. Parti'r Ddinas — Caerdydd 2. Parti’r Cwm — Bala 3. Lodesi Dyfi — Bro Ddyfi
153. Parti cerdd dant o dan 25 oed 1. Ysgol Glanaethwy - Bangor 2. Bro Taf - Caerdydd
154. Triawd neu bedwarawd cerdd dant 1. Ceri, Ruth a Siriol 2. Triawd Myrddin 3. Lodesi Dyfi
155. Deuawd cerdd dant 16 oed a throsodd 1. Ruth a Siriol — Abergele a Chaerdydd 2. Gavin ac Osian — Pontypridd 3. Branwen a Hanna — Llanbedr Dyffryn Clwyd
156. Deuawd cerdd dant o dan 16 oed 1. Beca ac Awen — Yr Wyddgrug 2. Elen Dafydd Roberts a Jini Grug Dobson — Caerdydd 3. Olivia Davies ac Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder
157. Gwobr Aled Lloyd Davies 1. Martha Harris — Llandeilo 2. Sophie Jones — Cwm Senni 3. Ruth Erin Roberts — Caerdydd
158. Unawd cerdd dant 16 ac o dan 21 oed 1. Gwenan Mars — Dinbych 2. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 3. Elain Rhys — Trawsfynydd
159. Unawd cerdd dant 12 ac o dan 16 oed 1. Gwenno Llwyd Beech — Llanllechid 2. Cian Glyn — Yr Eglwys Newydd 3. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder
160. Unawd cerdd dant o dan 12 oed 1. Jini-Grug Dobson - Caerdydd 2. Elen Dafydd Roberts - Caerdydd 3. Morus Charles - Caerdydd
Cerddoriaeth
golygu201. Côr agored 1. ABC - Caerdydd 2. Ysgol Glanaethwy - Bangor 3. Côr CF1 - Caerdydd
202. Côr cymysg 1. Côr CF1 — Caerdydd 2. Côrdydd — Caerdydd 3. Côr Llanddarog — Llanddarog
203. Côr lleisiau tenor 1. Risca Male Choir — Risca, Casnewydd 2. Côr Tadau Trisant — Llantrisant, Meisgyn a Phontyclun 3. Côr Meibion Llangwm — Corwen
204. Côr lleisiau soprano / alto 1. Côr Merched Cwm Rhondda — Treorci 2. Merched Soar — Llanbedr Pont Steffan 3. Ysgol Glanaethwy — Bangor
205. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Hen Nodiant — Caerdydd 2. Encôr — Porthaethwy 3. Côr Nefi Blws — Caerdydd
206. Côr ieuenctid o dan 25 oed 1. Côr Heol Y March 2. Merched Plastaf 3. Côr y Cwm
207. Cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Caerdydd 2. Côr Eifionydd 3. Côr Y Gleision
208. Côr newydd i’r Eisteddfod 1. Côr Taflais - Caerdydd 2. Côr Bryn Owain - Y Bont-faen, Bro Morgannwg 3. Côr Cyfeillion Melin Gruffydd - Caerdydd
209. Y gân Gymraeg orau 1. Ysgol Glanaethwy - Beth yw'r Haf i Mi?
210. Tlws Sioned James, Arweinydd Corawl yr Ŵyl 1. Eleri Roberts
211. Côr yr Ŵyl 1. Côr Caerdydd
221. Ensemble lleisiol rhwng 3 a 6 mewn nifer 1. Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg — Y Barri 2. Merched Mela — Pwllheli 3. Criw C.Ô.R — Caerffili
231. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. Owain Rowlands — Llandeilo 2. Scarlett Jones — Llundain 3. Manon Ogwen Parry — Penarth 4. Twm Tegid — Treffynnon
232. Unawd soprano 25 oed a throsodd 1. Bethan Elin — Ynys Môn 2. Joy Cornock — Talyllychau 3. Yingzi Song — Caerdydd
233. Unawd mezzo | contralto | gwrth-denor 25 oed a throsodd 1. Erin Fflur — Y Felinheli 2. Gerallt Rhys Jones — Machynlleth 3. Heledd Mair Besent — Llanbedr Pont Steffan
234. Unawd tenor 25 oed a throsodd 1. Elis Jones — Rhuthun 2. Aled Wyn Thomas — Llanwnnen, Llanbedr Pont Steffan 3. Arfon Rhys Griffiths — Llanuwchllyn
235. Unawd bariton | bas 25 oed a throsodd 1. Kees Huysmans — Llanbedr Pont Steffan 2. Barry Nudd Powell — Llanfihangel y Creuddyn 3. Richard Rees — Machynlleth
237. Canu emyn | cân o fawl 1. Joy Cornock - Talyllychau 2. Marianne Jones Powell - Llandre, Ceredigion 3. David Maybury – Maesteg
238. Ar ei newydd wedd - dehongliad newydd o gân werin draddodiadol 1. Iestyn Gwyn Jones - Creigiau, Caerdydd 2. Jennie Williams - Tonyrefail 3. Morgan a Catrin - Ysgol Garth Olwg, Pontypridd
239. Unawd Gymraeg | Hen Ganiadau 1. Richard Rees - Machynlleth 2. Arfon Rhys Griffiths - Llanuwchllyn 3. Bethan Elin - Ynys Môn
240. Unawd soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Manon Ogwen Parry — Penarth 2. Caitlin Hockley — Caerdydd 3. Scarlett Jones — Llundain
241. Unawd mezzo / contralto / gwrth-denor 19 ac o dan 25 oed 1. Elen Wyn — Caerdydd 2. Erin Thomas — Caerdydd
242. Unawd tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Elis Garmon Jones — Y Bala 2. Rhys Archer — Y Fflint 3. Cai Fôn Davies — Bangor
243. Unawd bariton / bas 19 ac o dan 25 oed 1. Tomos Heddwyn Griffiths — Trawsfynydd 2. Owain Rowlands — Llandeilo 3. Daniel O’Callaghan — Pwll Trap
245. Unawd allan o sioe gerdd 19 oed a throsodd 1. Rachel Stephens — Treherbert 2. Elis Myers-Sleight — Merthyr Tydfil 3. Lauren Elizabeth Williams — Castell-nedd
246. Ysgoloriaeth goffa Wilbert Lloyd Roberts 1. Elis Myers-Sleight — Merthyr Tydfil
247. Unawd allan o sioe gerdd o dan 19 oed 1. Leusa Francis — Caernarfon 2. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 3. Poppy Mohammad — Caerdydd
248. Unawd 16 ac o dan 19 oed 1. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 2. Georgia Williams — Rhuthun 3. Guto Jenkins — Llanfihangel-ar-Arth
249. Unawd 12 ac o dan 16 oed 1. Beca Hogg — Yr Wyddgrug 2. Gethin Williams — Caerdydd 3. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder
250. Unawd o dan 12 oed 1. Leisa Gwen Roberts - Y Bontfaen 2. Elen Dafydd Roberts - Caerdydd 3. Beca Grug Morris - Caerfyrddin
262. Grŵp offerynnol 1. Lefi Dafydd a Jencyn Corp - Ysgol Bro Preseli 2. Heledd a Remy - Treganna 3. TwmpDaith - O bedwar ban Cymru
263. Rhuban Glas offerynnol 19 oed a throsodd 1. Tomos Boyles — Treganna 2. Owen Putter — Cardiff 3. Isabelle Harris — Pontypridd
264. Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Brandon Luke Edwards — Y Fali 2. Alwena Mair Owen — Llanllwni 3. Lisa Morgan — Bangor
265. Rhuban Glas offerynnol o dan 16 oed 1. Owen Rhys Frohawk - Caerdydd 2. Gwenan Dickenson - Y Fenni 3. Edryd Ifan Collins - Caerdydd
Dawns
golygu301. Tlws coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Talog — Caerfyrddin 2. Dawnswyr Nantgarw — Caerdydd 3. Dawnswyr Ysgafndroed — Caerdydd
302. Parti dawnsio gwerin o dan 25 oed 1. Dawnswyr Talog - Caerfyrddin 2. Bro Taf - Caerdydd 3. Ysgol Plasmawr - Caerdydd
303. Dawns stepio i grŵp 1. Dawnswyr Nantgarw — Caerdydd 2. Cywion Cowin — Caerfyrddin 3. Ysgol Hafodwenog — Caerfyrddin
304. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru 1. Dawnswyr Talog — Caerfyrddin
305. Deuawd, triawd neu bedwarawd stepio 1. Daniel a Morus - Creigiau, Caerdydd 2. Erin a Caian - Blaenycoed 3. Elwyn a Ioan – Caerdydd
306. Dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol i fechgyn 1. Daniel Calan Jones — Creigiau, Caerdydd 2. Morus Caradog Jones — Creigiau, Caerdydd 3. Caian Wyn Evans — Porthyrhyd
307. Dawns stepio unigol mewn arddull draddodiadol i ferched 1. Elen Morlais Williams — Caerdydd 2. Gwennan Heledd Staziker — Caerdydd 3. Lleucu Parri — Caerdydd
310. Parti o ddawnswyr cymdeithasol 1. Ysgol Llanhari
351. Dawns i grŵp dros 4 mewn nifer 1. Commander - Dimensions Performance Academy - Pontypridd 2. Hudoliaeth — Clwb Dawns Hudoliaeth 3. Uchelgais — Rhydaman
352. Dawns i bâr/triawd/pedwarawd 1. Cerys, Ebony a Cadi — Rhydaman 2. Awen ac Alaw — Caerdydd 3. Celyn, Lillie, Alys a Belle — Rhydaman
353. Dawns unigol 12 oed a throsodd 1. Mairwen Thomas — Penarth 2. Rocco — Pontypridd 3. Nel Sian Parry — Caernarfon
354. Dawns unigol o dan 12 oed 1. Lal Prydderch Ifan - Caergybi 2. Isabelle Davies - Rhydaman 3. Lillie Morgan - Rhydaman
355. Dawns gelf / greadigol / gyfoes / ballet i grŵp dros 4 mewn nifer 1. Flood - Dimensions Performance Academy - Pontypridd 2. GFiyah - Llanilltud Fardre 3. Uchelgais - Rhydaman
Gwerin
golygu401. Côr alaw werin 1. Côr Esgeifiog — Gaerwen 2. Côr Merched Canna — Caerdydd 3. Côr Godre'r Garth — Rhondda Cynon Taf
402. Parti alaw werin 1. Eryrod Meirion — Llanuwchllyn 2. Parti'r Ddinas — Caerdydd 3. Lodesi Dyfi — Bro Ddyfi
403. Parti Alaw Werin o dan 25 oed 1. Ysgol Glanaethwy - Bangor 2. Merched Plastaf - Caerdydd 3. Ysgol Garth Olwg - Pentre'r Eglwys
404. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 1. Cadi Mars Jones — Llandderfel 2. Llio Meirion — Rhuthun 3. Siriol Elin — Abergele
405. Unawd alaw werin 16 ac o dan 21 oed 1. Celyn Richards — Sanclêr 2. Branwen Medi Jones — Llanbedr Dyffryn Clwyd 3. Fflur Erin Edwards — Llanfairpwllgwyngyll
406. Unawd alaw werin 12 ac o dan 16 oed 1. Awen Hogg — Yr Wyddgrug 2. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder 3. Tesni Thomas — Abergele
407. Unawd alaw werin o dan 12 oed 1. Morus Charles - Caerdydd 2. Greta Ann Jones - Caerfyrddin 3. Nanw Melangell Griffiths-Jones - Llanybydder
Llefaru
golygu601. Côr llefaru 1. Côr Sarn Helen — Llanbedr Pont Steffan 2. Côr Merched Tawe — Abertawe 3. Côr Llefaru Cwm Rhondda — Treorci, Rhondda
602. Parti llefaru hyd at 16 mewn nifer 1. Gens y Gen — Caerdydd 2. Merched y Felin — Caerdydd 3. Parti Man a Man — Llanbedr Pont Steffan
605. Gwobr goffa Gwyneth Morus Jones – Rhuban Glas ieuenctid – Llefaru unigol 16 ac o dan 21 oed 1. Mari Elin Prys — Porthaethwy 2. Alwena Mair Owen — Llanllwni 3. Erin Llwyd — Corwen
606. Llefaru unigol 12 ac o dan 16 oed 1. Cadi Elis Roberts — Caernarfon 2. Gwenno Llwyd Beech — Llanllechid 3. Gruffudd Llwyd Beech — Llanllechid
607. Llefaru unigol o dan 12 oed 1. Celyn Davies - Castellnewydd Emlyn 2. Efa Medi - Llandysul 3. Elysteg Emyr - Henllan
608. Llefaru o’r Ysgrythur: agored 1. Cai Fôn Davies - Bangor 2. Lisa Jones - Llanelli 3. Daniel O’Callaghan - Pwll Trap
609. Mewn Cymeriad 1. Daniel O’Callaghan - Pwll Trap
Theatr
golygu905. Deialog – rhwng 2 a 4 mewn nifer 1. Kellie-Gwen ac Elis - Caerdydd 2. Swyn Efa Tomos ac Ela Mablen Griffiths-Jones - Llanybydder 3. Ceuron a Ania - Ynys Môn
906. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Alis Tomos — Caernarfon 2. Ela Williams — Crosshands 3. Courtney Olwen Manel — Llundain
907. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Mari Fflur Thomas — Caerdydd 2. Begw Elain Roberts — Caernarfon 3. Ela Mablen Griffiths-Jones — Llanybydder
Maes D
golygu802. Côr dysgwyr 1. Côr Dysgwyr y Cymoedd — Pontypridd 2. Dysg-Gôr — Caerdydd 3. Côr Dysgwyr ABA — Abertawe
Anrhydeddau
golyguAnrhydeddir y canlynol a'u croesawyd i Orsedd y Beirdd:
Gwyrdd
golygu- Anne England
- Nerys Howell
- Angharad Lee
- Elin Llywelyn-Williams
- Catrin Rowlands
- Derrick Rowlands
- Mari Morgan
- Shân Eleri Passmore
- Siwan Rosser
- Peter Spriggs
- Llinos Swain
- Meilyr Hedd Tomos
- Gareth Williams
- Siân Rhiannon Williams
Glas
golygu- Delyth Badder
- Carol Bell
- Jamie Bevan
- Dafydd Trystan Davies
- Geraint Davies
- Michelle Davies
- Joseff Gnagbo
- Margot Ann Phillips Griffith
- Gill Griffiths
- Rosa Hunt
- Awen Iorwerth
- Gethin Lloyd James
- Theresa Mgadzah Jones
- David Lloyd-Jones
- Ian Wyn Rees
- Rhuanedd Richards
- David Roberts
- Elfed Roberts
- Elinor Snowsill
- Derec Stockley
- Hazel Thomas
- John Thomas
- Mark Vaughan
- Ynyr Williams
Tu allan i Gymru
golygu- Megan Williams (glas)
- Simon Chandler (gwyrdd)[27]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Medal Goffa Syr TH Parry-Williams i sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwyn". BBC Cymru Fyw. 2024-07-25. Cyrchwyd 2024-07-26.
- ↑ "Angharad Pearce Jones yn ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Laura Thomas yn ennill y Fedal Aur am Grefft a Dylunio | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Y Lle Celf - Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Y Lle Celf - Instagram". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-08-19.
- ↑ "Elena Grace yn ennill Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Studio Brassica'n ennill Medal Aur am Bensaernïaeth Eisteddfod 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Dr Rhodri Jones yn ennill Medal Wyddoniaeth yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-07-22. Cyrchwyd 2024-07-22.
- ↑ "'Cyfle unwaith mewn oes': Pobl Pontypridd yn harddu'r ardal". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Cennard Davies yw Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-06-10. Cyrchwyd 2024-06-10.
- ↑ "Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-04.
- ↑ "Steddfod 2024: Y gronfa leol "wedi cyrraedd ei tharged ariannol"". BBC Cymru Fyw. 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Nia Ben Aur yn plethu perthynas fodern rhwng Cymru ac Iwerddon | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-03.
- ↑ "Pontypridd i lwyfannu Eisteddfod drefol yn 2024". BBC Cymru Fyw. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.
- ↑ "Y Muni | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-04.
- ↑ "Lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-03-06.
- ↑ "Rhyddhau cynlluniau lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024". www.rctcbc.gov.uk. Cyrchwyd 2024-03-06.
- ↑ "Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-09.
- ↑ "Dadorchuddio Cadair a Choron Prifwyl Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-06-13. Cyrchwyd 2024-06-15.
- ↑ "Gwynfor Dafydd yn ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-05.
- ↑ "Dylunio Coron yr Eisteddfod yn 23 oed yn 'freuddwyd'". BBC Cymru Fyw. 2024-06-15. Cyrchwyd 2024-06-15.
- ↑ "Roedd "siom" ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cy". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-06. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Eurgain Haf yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-07. Cyrchwyd 2024-08-07.
- ↑ "Canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". BBC Cymru Fyw. 2024-08-08. Cyrchwyd 2024-08-08.
- ↑ "Canslo'r Fedal Ddrama: Galw am eglurhad gan yr Eisteddfod". BBC Cymru Fyw. 2024-08-09. Cyrchwyd 2024-08-10.
- ↑ "Anrhydeddau'r Orsedd 2024: Y de". BBC Cymru Fyw. 2024-05-20. Cyrchwyd 2024-05-24.