Dafydd ap Llewelyn Llwyd
Roedd Dafydd ap Llywelyn Llwyd (tua 1522 - tua 1559), Llandysul, yn un o fân bonheddwyr Ceredigion yng nghyfnod y Tuduriaid, gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceredigion ym 1545.[1]
Dafydd ap Llewelyn Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 1522 Llandysul |
Bu farw | 1559 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr |
Roedd yn fab i Llywelyn ap Gwilym Llwyd, Llanllŷr, Ceredigion a Lleucu, merch Ifan Llwyd ab Ieuan ac roedd y teulu o gyff Rhys ap Gruffydd, Arglwydd Deheubarth.
Priododd Lleucu ferch Ieuan ap Siencyn Llwyd a bu iddynt o leiaf un mab.[2]
Cyfeiriadau
golyguSenedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Thomas Gynns |
Aelod Seneddol Ceredigion 1545 |
Olynydd: William Devereux |