Crys Polca Dot
Caiff y Crys Polca Dot[1] neu'r Crys Smotiau Crynion[1] (Ffrangeg: maillot à pois rouges) ei wobrwyo i'r dringwr gorau yn ras seiclo y Tour de France. Gelwir enillydd y crys yn "Brenin y Mynyddoedd" a gwisgai grys gwyn gyda smotiau coch.
Math | crys arbennig mewn rasys seiclo |
---|---|
Lliw/iau | gwyn, coch |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguYn 1933, dychmygwyd y syniad o gystadleuaeth brenin y mynyddoedd gyntaf. Yr enillydd oedd Vicente Trueba, a gyrhaeddodd copaon y mynyddoedd gyntaf. Er hyn, roedd Trueba yn wael iawn am ddisgyn y mynyddoedd, felly nid oedd fyth yn ennill dim o gyrraedd y copa gyntaf. Penderfynodd Cyfarwyddwr y Tour de France, Henri Desgrange, y dylai'r seiclwyr a gyrhaeddodd y copaon gyntaf dderbyn bonws. O 1934 ymlaen, rhoddwyd yr amser rhwng y seiclwr cyntaf i'r copa a'r ail, fel bonws amser ar gyfer y seiclwr cyntaf. Cafwyd wared ar y bonws yma yn ddiweddarach, ond delwyd i adnabod brenin y mynyddoedd.[2] Er i'r gystadleuaeth gael ei chyflwyno yn 1933, ni chyflwynwyd y grys tan 1975. Mae "Brenin y Mynyddoedd" yn gwisgo crys gwyn gyda smotiau coch (maillot à pois rouges), a gyfeirir ati fel y "crys dot polca" a ysbrydolwyd gan grys a welodd y cyn-drefnwr, Félix Lévitan, tra yn nhrac Vélodrome d'Hiver, Paris yn ei ieuenctid. Dewiswyd y lliwiau gan y cefnogwr ariannol, Chocolat Poulain (Cymraeg: Siocled Poulain), i gyd-fynd â un o'u cynnyrch. Ers 1993 cefnogir y grys gan archfarchnad Champion. Mae lliwiau'r grys hefyd wedi cael eu ymdopi gan rasys cam eraill seiclo megis y Tour of Britain.
Y Sefyllfa Bresennol
golyguPenderfynir y gystadleuaeth gan bwyntiau a wobrwyir i'r beiciwr cyntaf i gyrraedd copa elltydd a mynyddoedd penodedig, gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau ar gael ar y bryniau caletaf eu dringo. Caiff y bryniau eu rhannu i sawl categori, o 1 (y caletaf) i 4 (y lleiaf caled), mesurir pa mor anodd ydynt ar sail eu serthrwydd a'u hyd. Mae pumed categori, sef Hors catégorie (di-gategori), ar gyfer y bryniau yn galetach fyth na rhai categori 1. Newidiwyd y system sgorio yn 2004, a cafodd y cyntaf i gopa dringiad categori 4 3 pwynt, tra bod y cyntaf i groesi copa Hors catégorie yn derbyn 20 o bwyntiau. Gwobrwyir pwyntiau i'r 3 beiciwr cyntaf i gopa bryn categori 4 tra bod y 10 cyntaf yn derbyn pwyntiau ar fryn Hors catégorie. Gwobrwywyd pwyntiau dwbl hefyd yn 2004, os oedd y cymal yn gorffen ar ben bryn, ac os oedd y bryn yng nghategori 2 neu uwch.
Dosbarthu'r Pwyntiau
golyguRhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Dringiadau yn y "Hors Catégorie" (HC): 20, 18, 16, 14, 12, 10, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 10 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 1: Rhoddir 15, 13, 11, 9, 8, 7, 6 ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 8 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 2: Rhoddir 10, 9, 8, 7, 6, ac 5 o bwyntiau ar gyfer y 6 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 3: Rhoddir 4, 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 4 reidiwr cyntaf i'r copa.
Dringiadau Categori 4: Rhoddir 3, 2 ac 1 o bwyntiau ar gyfer y 3 reidiwr cyntaf i'r copa.
NODYN: Ar gyfer dringiad olaf cam, bydd y pwyntiau'n cael eu dwblu (ar gyfer dringiadau HC, Cat 1 a Cat 2 yn unig).
Os bydd cwlwm rhwng nifer o bwyntiau'r safle gyntaf, bydd y nifer o fuddugoliaethau ar ddringiadau HC yn perderfynnu enillyd y Grys Dot Polca, ac yna nifer buddugoliaethau drigidau Categori 1 os oes dal cwlwm ac yna Categori 2, ayb.
Brenin y Mynyddoedd
golyguEnillwyr sawl gwaith
golyguSafle | Enw | Gwlad | Sawl gwaith | Blynyddoedd |
---|---|---|---|---|
1 | Richard Virenque | 7 | 1994, 1995, 1996, 1997, 1999, 2003, 2004 | |
2 | Federico Bahamontes | 6 | 1954, 1958, 1959, 1962, 1963, 1964 | |
Lucien Van Impe | 6 | 1971, 1972, 1975, 1977, 1981, 1983 | ||
4 | Julio Jiménez | 3 | 1965, 1966, 1967 | |
5 | Felicien Vervaecke | 2 | 1935, 1937 | |
Gino Bartali | 2 | 1938, 1948 | ||
Fausto Coppi | 2 | 1949, 1952 | ||
Charly Gaul | 2 | 1955, 1956 | ||
Imerio Massignan | 2 | 1960, 1961 | ||
Eddy Merckx | 2 | 1969, 1970 | ||
Luis Herrera | 2 | 1985, 1987 | ||
Claudio Chiappucci | 2 | 1991, 1992 | ||
Laurent Jalabert | 2 | 2001, 2002 | ||
Michael Rasmussen | 2 | 2005, 2006 |
Yr Holl Enillwyr
golyguEnillwyr yn ôl Cenediglrwydd
golyguSafle | Gwlad | Enwau'r Enilwyr Amlaf | Yr Enillydd Diweddaraf | Nifer o Ennillion |
---|---|---|---|---|
1 | Richard Virenque (7) | Richard Virenque 2004 | 18 | |
2 | Federico Bahamontes (6) | Domingo Periwreña 1974 | 15 | |
3 | Gino Bartali, Fausto Coppi, Imerio Massignan a Claudio Chiappucci (2) |
Claudio Chiappucci 1992 | 12 | |
4 | Lucien Van Impe (6) | Lucien Van Impe 1983 | 11 | |
5 | Luis Herrera (2) | Mauricio Soler 2007 | 4 | |
6 | Michael Rasmussen (2) | Michael Rasmussen 2006 | 2 | |
Charly Gaul (2) | Charly Gaul 1956 | 2 | ||
Steven Rooks a Gert-Jan Theunisse | Gert-Jan Theunisse 1989 | 2 | ||
9 | Tony Rominger | Tony Rominger 1993 | 1 | |
Robert Millar | Robert Millar 1984 | 1 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "polka". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 2020-11-26.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-07-15. Cyrchwyd 2007-09-18.