Castell Paun (castell)
Castell yng nghymuned Castell Paun, Powys, yw Castell Paun (Saesneg: Painscastle).
Math | castell mwnt a beili |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.107203°N 3.218503°W |
Daw'r enw Castell Paun o enw'r arglwydd Normanaidd Pain Fitz John, a adeiladodd y castell cyntaf yma yn hanner cyntaf y 12g. Lladdwyd ef gan y Cymry yn 1137, a daeth ardal Elfael i feddiant Madog ab Idnerth. Cipiwyd y castell gan William de Braose tua 1195. Ymosodwyd ar y castell gan beiriannau rhyfel[1] nerthol byddin Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn 1196, ac ildiodd y castell iddo; o fewn wythnosau, gwnaed cytundeb heddwch. Yn 1198 gosododd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys warchae ar y castell ond gorchfgwyd ef gan fyddin dan Geoffrey fitz Peter a lladdwyd oddeutu 3,000 o Gymry.[2]
Meddianwyd y castell gan Iorwerth Clud yn 1215. Llosgwyd y castell gan y Cynry yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn ap Iorwerth yn y cylch. Fe'i hail-adeiladwyd fel castell o gerrig gan y brenin Harri III a Hubert de Burgh yn 1231. Yn 1233 daeth y castell i feddiant Ralph Tosny, a bu ym meddiant y teulu hyd nes i Llywelyn ap Gruffudd ei gipio yn 1265. Ail-adeiladwyd y castell gan Ralph Tosny arall yn 1276.
Llyfryddiaeth
golygu- P.M. Remfry, Painscastle, 1066 to 1405
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan saesneg Castles of Wales
- ↑ Reference Wales; golygydd John May; Gwasg prifysgol Cymru; 1994