Carnedd Llywelyn
Carnedd Llywelyn (Carnedd Llewelyn ar y map OS) yw'r mynydd uchaf ym mynyddoedd y Carneddau yn Eryri. Carnedd Llywelyn yw'r mynydd uchaf yng Nghymru ar ôl Yr Wyddfa, os na ystyrir Crib y Ddysgl/Carnedd Ugain ar yr Wyddfa yn fynydd ar wahan. Mae'r ffin rhwng Gwynedd a sir Conwy yn mynd tros y copa.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 1,064 metr |
Cyfesurynnau | 53.1606°N 3.9693°W |
Cod OS | SH6836464375 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 750 metr |
Rhiant gopa | Yr Wyddfa |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Dringo'r mynydd
golyguMae Carnedd Llywelyn yn fynydd pur anodd cyrraedd ato, gan ei fod ar ganol prif grib y Carneddau, rhwng Carnedd Dafydd i'r de-orllewin a Foel Grach i'r gogledd. Mae copa llai Yr Elen yn agos iawn at Garnedd Llywelyn i'r gogledd-orllewin. Gan ei fod gryn bellter o unrhyw ffordd, mae tipyn o waith cerdded i gyrraedd y copa o unrhyw gyfeiriad. Gellir ei ddringo o Gerlan ger Bethesda, gan ddilyn Afon Llafar tua chreigiau Ysgolion Duon yna dringo'r Elen a pharhau ar hyd y grib i gopa Carnedd Llywelyn. Gellir hefyd ei ddringo o'r A5 ger Helyg, gan ddilyn y ffordd drol i Ffynnon Llugwy a dringo'r llechweddau uwchben Craig yr Ysfa i'r copa. Dull arall yw ei gyrraedd ar hyd y brif grib, un ai trwy ddringo Pen yr Ole Wen o Lyn Ogwen neu ddringo Foel Fras o Abergwyngregyn. Gellir hefyd ddringo Pen Llithrig y Wrach ychydig i'r de-ddwyrain a dilyn y grib i gopa Carnedd Llywelyn.
Yr enw
golyguYmddengys yn weddol sicr fod Carnedd Llywelyn wedi ei enwi ar ôl un ai Llywelyn Fawr neu Llywelyn ap Gruffudd, ond nid oes sicrwydd pa un. Yn yr un modd, enwyd Carnedd Dafydd ar ôl mab Llywelyn Fawr, Dafydd ap Llywelyn, neu ar ôl Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, ond nid oes sicrwydd pa un o'r ddau. Mae'n bosibl i'r Elen gael ei henwi ar ôl gwraig Llywelyn (Elinor); a bydd Garnedd Uchaf yn cael ei ail-enwi yn Carnedd Gwenllian yn haf 2009.
Ar y map OS mae'r enw yn cael ei sillafu fel Carnedd Llewelyn.
Cofnodir cerdd i'r mynydd a briodolir i'r beirdd Rhys Goch Eryri, Ieuan ap Gruffudd Leiaf ac eraill (tua 1450 efallai). Un o'r cerddi brud ydyw. Mae'r bardd yn ymddiddan â'r mynydd ac yn gofyn iddo ddarogan pryd y daw'r Mab Darogan i wared y Cymry. Mae'r ateb yn awgrymu Harri Tudur. Mae'r bardd yn annerch y mynydd fel 'Carnedd... // - llewpart ysigddart seigddur - / Llywelyn, frenin gwyn gwŷr.'
Llyfryddiaeth
golygu- Huw Derfel Llawlyfr Carnedd Llywelyn (1864) oedd y llawlyfr mynydd cyntaf yn Gymraeg
- Ioan Bowen Rees, Bylchau (Caerdydd, 1995). Pennod 1: 'Llawlyfr Carnedd Llywelyn'.
- Dewi Tomos Eryri (Gwasg Carreg Gwalch) ISBN 0-86381-994-X
- J.E. Caerwyn Williams ac eraill (gol.), Llywelyn y Beirdd (Barddas, 1984). Testun hwylus o'r gerdd 'Ymddiddan â Charnedd Llywelyn', ar dudalennau 110-111.
Gweler hefyd
golygu- Carnedd Dafydd: Brawd Llywelyn ein Llyw Olaf
- Yr Elen: Elen (neu Elinor) oedd gwraig Llywelyn
- Carnedd Gwenllian: merch Llywelyn ac Elen (hyd at haf 2009: Garnedd Uchaf; ar fin cael ei ail-enwi yn "Carnedd Gwenllian")
- Y Carneddau: rhestr gyflawn
- Craig yr Ysfa: clogwyn dringo rhwng Carnedd Llywelyn a Phen yr Helgi Du
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |