Ben Lake

Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion

Gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Geredigion yw Ben Lake (ganwyd 22 Ionawr 1993). Yn etholiad Mehefin 2017 daeth yn Aelod Seneddol ieuengaf Plaid Cymru a'r aelod ieuengaf o Gymru. Cadwodd ei sedd yn etholiad Rhagfyr 2019.

Ben Lake
Ganwyd22 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
Ceredigion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Llanbedr Pont Steffan. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Roedd yn brif fachgen yr ysgol yn 2011, ac astudiodd Ffrangeg, Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth ar gyfer Lefel A.[1] Enillodd le yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth

Wedi graddio o Brifysgol Rhydychen, gweithiodd fel swyddog y wasg i Elin Jones AC a bu'n swyddog ymchwil yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru .[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Clonc, Ysgol Campws Llanbedr Pont Steffan (Mawrth 2011). Adalwyd ar 14 Ebrill 2017.
  2. (Saesneg) Wales’ battlegrounds: Ceredigion (7 Mehefin 2017). Adalwyd ar 9 Mehefin 2017.

Dolenni allanol

golygu


Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Mark Williams
Aelod Seneddol dros Geredigion
2017 – presennol
Olynydd:
presennol
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.