Buddig Anwylini Pughe

peintiwr masnachol (1857-1939)
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:45, 16 Hydref 2024 gan Jason.nlw (sgwrs | cyfraniadau)

Arlunydd proffesiynol o Gymru oedd Buddig Anwylini Pughe, (1857-1939) a deithiodd yn helaeth yn Ewrop, gan gynnwys Paris, Rhufain a Fenis. Ganed hi yn Aberdyfi, Gwynedd . [1]

Buddig Anwylini Pughe
Ganwyd1857 Edit this on Wikidata
Bu farw1939 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
TadJohn Pughe Edit this on Wikidata

Bywyd personol

Roedd Buddug Anwylini Pughe yn ferch i'r meddyg ag ysgolhaig hynafiaethol John Pughe, a adnabyddir hefyd fel Ioan ab Hu Feddyg (1814-1874) a Catherine Samuel.[2] Cyhoeddodd ei thad gofiant i'r bardd Eben Fardd . Cyfieithodd hefyd Meddygon Myddfai (Physicians of Myddfai), a gyhoeddwyd gan The Welsh Manuscripts Society yn 1864. Yr oedd pedwar o frodyr Buddug yn feddygon, a thri ohonynt — John Eliot Howard (bu f. 1880), Rheinallt Navalaw, Taliesin William Owen (bu f. 1893) — yn ymarfer yn Lerpwl, a David Roberts (bu f. 1885), a drigai yn sir Drefaldwyn.[3]

Ar ryw adeg yn ei bywyd, daeth Buddug yn berchennog geiriadur darluniadol a luniwyd gan ei modryb fyddar, Elizabeth Pughe (1826-1847). Mae'r geiriadur hwn yn dystiolaeth o ddymuniad y teulu Pugh i roi addysg dda i'w merch, ddegawdau cyn Deddf Addysg Elfennol (Blind and Deaf Children) 1893, a wnaeth addysg sylfaenol i blant byddar yn orfodol. [4] Yn y pendraw rhoddodd Buddug y geiriadur hwn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.[5]

Gyrfa

 
John Pughe (1815-1874) wedi'i baentio gan ei ferch Buddig Anwylini Pughe

Mae ei phaentiadau yn cynnwys nifer o bortreadau, gan gynnwys rhai o'i thad John Pughe, [6] Dr TF Roberts, Prifathro Prifysgol Cymru, a'i deulu a Robert Parry. [7] Peintiodd The Shakespeare Memorial Theatre, Stratford on Avon ym 1905 a Figure Study ym 1895. Mae ei gwaith hefyd yn cynnwys y peintiad dyfrlliw Monk playing an oboe in a chapel interior yn 1886.

Astudiodd Buddug Anwyli Pughe yn Ysgol Gelf Lerpwl, Heatherley's yn Llundain a Collarosi ym Mharis. Bu'n ymddangos am y tro cyntaf yn yr Academi Frenhinol ym 1886 a gweithiodd ym Mharis, Rhufain a Fenis. Yr oedd yn aelod o'r Liverpool Academy of Arts, y Liverpool Sketch Club a'r Irish Water Colour Society . Dychwelodd i Aberdyfi tua 1905 lle parhaodd i beintio tirluniau a phortreadau. Mae ei gweithiau tirwedd yn cynnwys A Sunlit Village Church a sawl tirwedd o Aberdyfi. Bu farw yn Lerpwl ym 1939. [2]

Er bod hi wedi paentio cannoedd o baentiadau fel artist proffesiynol, ychydig o'i phaentiadau sy'n ymddangos mewn orielau cyhoeddus. Recordiwyd un yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1991, sef The Old Lacemaker. Ymddangosodd rhai o’i phaentiadau yn Oriel Gelf Walker yn Lerpwl am dros 50 mlynedd ond dim ond un sydd ar ôl yno. Arddangoswyd Dolgelley Fair yn yr Academi Genedlaethol yn 1924. [1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Buddug Anwylini Pughe - Cof y Cwmwd". cof.uwchgwyrfai.cymru. Cyrchwyd 2024-07-18. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "auto" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  2. 2.0 2.1 "Artist/Maker: Buddug Anwylini Pughe - Aberystwyth University School of Art Museums and Galleries". museum.aber.ac.uk. Cyrchwyd 2024-07-18. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "auto1" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. "Pughe, John Ioan ab Hu Feddyg (1814-1874), physician and littérateur | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2024-07-25.
  4. "Pughe, Elizabeth ('Eliza') (1826–1847), deaf illustrator | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2024-08-21.
  5. Pughe, Eliza (c. 1843). "Pictorial dictionary electronic version". viewer.library.wales. Cyrchwyd 2024-08-21.
  6. "Pughe, Buddig Anwylini | Art Collections Online". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-25.
  7. "Pughe, Buddig Anwylini, 1857–1939 | Art UK". artuk.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-07-18.