Maesygarnedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
del 2
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 2:
 
Ffermdy traddodiadol yw '''Maesygarnedd''' (neu '''Maes-y-garnedd'''), sef man geni [[John Jones, Maesygarnedd|John Jones]] yn [[1597]], un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth [[Siarl I, brenin Lloegr]] a brawd-yng-nghyfraith [[Oliver Cromwell]], Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr. Saif ym mhen pellaf [[Afon Cwmnantcol|Cwmnantcol]], gyda'r Foel Wen (414m) i'r gogledd-orllewin, y Foel Ddu (477m) i'r gogledd, y [[Rhinogydd]] (720m) i'r dwyrain a mynydd Moelfre (589m) i'r de-orllewin. Cyfeirnod Grid yr OS: SH6420026920.<ref>[https://coflein.gov.uk/en/site/28561?term=Maes-y-Garnedd Gwefan Coflein;] adalwyd 19 Mai 2024. </ref> Tua 5 milltir i'r gorllewin mae [[Salem y llun|Salem, Cefncymerau]], [[Pentre Gwynfryn]], y capel a ddarlunir yn y llun enwog ''Salem'' gan [[Sydney Curnow Vosper]].
 
Ceir [[Bwlch Drws Ardudwy]] gerllaw, bwlch, sy'n gorwedd rhwng [[Rhinog Fawr]] a [[Rhinog Fach]]; roedd y bwlch o bwysigrwydd mawr yn y [[Canol Oesoedd]] fel y cyswllt rhwng [[Ardudwy]] ar yr ochr orllewinol i'r Rhinogydd a'r ardaloedd i'r dwyrain.